Byw’n Iach operate 11 leisure and sport venues on behalf of Gwynedd Council with the mission of offering sustainable leisure and fitness activities of the highest quality to their communities, in order to improve the health, well-being, fitness and skills of all.

Byw’n Iach and Gwynedd Council have been valued partners of Swim Wales for a number of years and this fresh agreement will continue to provide the people of Gwynedd with the highest level of learn to swim experience. Their commitment to learners has also been strengthened with the award of Swim Wales Learn to Swim Accreditation, the quality mark for swim schools and operators delivering Learn to Swim Programmes in Wales

The accreditation recognises excellence in the delivery, governance and sustainability of their Learn to Swim offering and is available to all providers across Wales.

The North Wales provider are committed to providing inclusive opportunities for all across their services and facilities. The operator also uses its resources to encourage others to work inclusively, so that appropriate opportunities are available for everyone within their local communities to be active.

Byw’n Iach Managing Director, Amanda Davies said: “Byw’n Iach currently offer extracurricular swimming lessons to over 3300 children, and 80 Primary schools throughout Gwynedd access their lesson provision through our seven pools. We employ over 130 qualified swimming teachers to deliver these lessons. Our partnership with Swim Wales allows us to continue to invest on our workforce through nationally recognised qualifications and provides our young swimmers with accreditation for their achievements. Our ability to provide this scale of programme through the medium of Welsh to our local communities depends on our ability to continuously recruit and train the next generation of swim teachers. Having access to Swim Wales resources allows us to do this and have confidence in the quality of training and provision.”

Swim Wales Chief Executive Officer Fergus Feeney said: “Swim Wales, the recognised National Governing Body for Aquatics in Wales, have enjoyed a strong working relationship with Byw’n Iach over several years as one of the most experienced providers of leisure management provision in the Wales. Their mission of benefiting their communities through activity aligns seamlessly with our vision of ‘aquatics for everyone for life’, and we are proud to be working so closely with them.

“This partnership and their newly acquired accreditation ensures people of all ages and abilities who are learning to swim in Gwynedd do so through the highest quality of learn-to-swim experience. Our recently launched YMLAEN Strategy sets out our desire to create and maintain sustainable, lasting partnerships to help build happier and healthier local communities in Wales, Byw’n Iach shares this goal, and we are delighted they have chosen to continue to align with Swim Wales.”

Byw’n Iach Senior Development Officer Dyfed Davies & Swim Wales Head of Aquatics & Inclusion Sioned Williams.

As part of the multi-year partnership, Swim Wales will continue to provide support for all aquatic training and development requirements for Byw’n Iach, to ensure a happy and healthy future for their learners.

The agreement will include a comprehensive range of services, including supporting Byw’n Iach’s swimming teacher growth plans and ensuring they maintain a high-quality lesson delivery through regular audits, enabling them to further develop the Learn to Swim programme. Swim Wales will also supply all Learn to Swim awards, ensuring participants receive recognition for their accomplishments.


Mae Byw’n Iach yn rhedeg 11 canolfan hamdden a chwaraeon ar ran Cyngor Gwynedd gyda’r nod o gynnig gweithgareddau hamdden a ffitrwydd cynaliadwy o’r safon uchaf i’w cymunedau, er mwyn gwella iechyd, lles, ffitrwydd a sgiliau pawb.

Mae Byw’n Iach a Chyngor Gwynedd wedi bod yn bartneriaid gwerthfawr i Nofio Cymru ers nifer o flynyddoedd a bydd y cytundeb newydd hwn yn parhau i gynnig y lefel uchaf o brofiad dysgu nofio i bobl Gwynedd. Mae eu hymrwymiad i ddysgwyr wedi cael ei gryfhau yn sgil dyfarnu Achrediad Dysgu Nofio gan Nofio Cymru, sef y marc ansawdd ar gyfer ysgolion nofio a gweithredwyr sy’n cynnig Rhaglenni Dysgu Nofio yng Nghymru.

Mae’r achrediad yn cydnabod rhagoriaeth o ran cyflwyno, llywodraethu a chynaliadwyedd eu rhaglen Dysgu Nofio ac mae ar gael i bob darparwr ledled Cymru.

Mae’r darparwr o Ogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleon cynhwysol i bawb ar draws eu gwasanaethau a’u cyfleusterau. Mae’r gweithredwr hefyd yn defnyddio ei adnoddau i annog eraill i weithio’n gynhwysol, fel bod cyfleon priodol ar gael i bawb i fod yn actif yn eu cymunedau lleol.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach, Amanda Davies: “Ar hyn o bryd mae Byw’n Iach yn cynnig gwersi nofio allgyrsiol i dros 3300 o blant, ac mae 80 o ysgolion cynradd ledled Gwynedd yn cael mynediad i’w darpariaeth gwersi drwy ein saith pwll. Rydym ni’n cyflogi dros 130 o athrawon nofio cymwysedig i ddarparu’r gwersi yma. Mae ein partneriaeth â Nofio Cymru yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn ein gweithlu trwy gymwysterau cenedlaethol cydnabyddedig a rhoi achrediadau i’n nofwyr ifanc i gydnabod eu cyflawniadau. Mae ein gallu i ddarparu rhaglen ar y raddfa hon drwy gyfrwng y Gymraeg i’n cymunedau lleol yn dibynnu ar ein gallu i recriwtio a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o athrawon nofio yn gyson. Mae cael mynediad at adnoddau Nofio Cymru yn ein galluogi i wneud hyn a bod â hyder yn ansawdd yr hyfforddiant a’r ddarpariaeth.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Nofio Cymru, Fergus Feeney: “Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru, wedi mwynhau perthynas waith gref gyda Byw’n Iach dros nifer o flynyddoedd fel un o’r darparwyr mwyaf profiadol o ddarpariaeth rheolaeth hamdden yng Nghymru. Mae eu nod o fod o fudd i’w cymunedau trwy weithgaredd yn cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth o ‘weithgareddau dŵr i bawb am oes’, ac rydym yn falch o gael gweithio mor agos â nhw.

“Mae’r bartneriaeth hon a’u hachrediad newydd yn sicrhau bod pobl o bob oed a gallu sy’n dysgu nofio yng Ngwynedd yn gwneud hynny drwy brofiad dysgu nofio o’r safon uchaf. Mae ein Strategaeth YMLAEN a lansiwyd yn ddiweddar yn nodi ein hawydd i greu a chynnal partneriaethau cynaliadwy, parhaol i helpu i greu cymunedau lleol hapusach ac iachach yng Nghymru. Mae hwn yn nod y mae Byw’n Iach yn ei rannu, ac rydym yn falch eu bod wedi dewis parhau i gyd-redeg â Nofio Cymru.”

Fel rhan o’r bartneriaeth aml-flwyddyn, bydd Nofio Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth i holl ofynion hyfforddi a datblygu gweithgareddau dŵr Byw’n Iach, er mwyn sicrhau dyfodol hapus ac iach i’w dysgwyr.

Bydd y cytundeb yn cynnwys ystod gynhwysfawr o wasanaethau, gan gynnwys cefnogi cynlluniau twf athrawon nofio Byw’n Iach a sicrhau eu bod yn cynnal darpariaeth gwersi o safon uchel drwy archwiliadau cyson, gan eu galluogi i ddatblygu’r rhaglen Dysgu Nofio ymhellach. Bydd Nofio Cymru hefyd yn darparu holl wobrau Dysgu Nofio, gan sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau.