Sblash
Sblash yw ein system wobrwyo ar gyfer babanod a phlant bach sy’n cymryd eu camau cyntaf at ddysgu nofio, gyda bathodynnau a thystysgrifau ar gyfer lefelau 1 i 6.
Dysgu Nofio Cymru
Dysgu Nofio Cymru yw’r fframwaith dysgu nofio cenedlaethol i Gymru. Bydd plant yn cael eu gwobrwyo â bathodynnau a thystysgrifau ar eu taith Tonnau at ddod yn nofiwr hyfedr.
Nofio Ysgol
Mae Nofio Ysgol a’r Fframwaith Dysgu Nofio Cymru wedi uno erbyn hyn! Mae addysgu Nofio Ysgol yn fwy strwythuredig ac yn estyniad ar eich gwersi Dysgu Nofio.
Dysgu Nofio i Oedolion
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu nofio. Cysylltwch â’ch pwll nofio lleol i ddod o hyd i wersi nofio i oedolion.
Ar ôl Dysgu
Beth ydych chi’n ei wneud ar ôl eich Taith Dysgu Nofio? Mae digon o gampau dŵr i chi gymryd rhan ynddynt.