Rheolau Polo Dŵr
Dysgwch am bolo dŵr. Fel ym mhob camp tîm mae rheolau ynghlwm wrth bolo dŵr. Dysgwch sut y caiff gemau polo dŵr eu chwarae a’u sgorio.
Rheolau Polo Dŵr
Dyma reolau sylfaenol y gêm:
Dau dîm yn cystadlu i sgorio mwy o goliau na’r llall drwy saethu i gôl y tîm arall.
Mae’r timau’n cynnwys 13 o chwaraewyr a 7 yn unig yn y pwll.
Mae 6 o’r chwaraewyr yn maesu ac 1 yn gôl-geidwad.
Mae gan y timau 30 eiliad o feddiant i sgorio gôl cyn i’rmeddiant gael ei drosglwyddo i’r tîm arall gan roi cyfle i’r tîm hwnnw sgorio gôl.
Gall chwaraewr gael ei anfon o’r maes chwarae – ‘trosedd fawr’ yw’r enw ar hynny.
Dim ond 3 ‘trosedd fawr’ a gaiff chwaraewr mewn gêm cyn gorfod eistedd allan am weddill y gêm.
Yn ystod ‘trosedd fawr’, bydd y chwaraewr yn cael ei anfon o’r maes chwarae am 20 eiliad.
Mae gemau’n cynnwys 4 chwarter ac mae hyd y gêm yn amrywio yn ôl oedran y gystadleuaeth.
Mae maint y ‘maes chwarae’ yn amrywiol o bwll i bwll ond dylai dynion fod yn cystadlu mewn meysydd 30 metr o hyd a menywod mewn meysydd 25 metr o hyd.